Canllawiau Statudol – Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio

 

 

Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor am dynnu sylw at y dryswch a allai godi o’r defnydd o ‘rhaid’, ‘dylai’ a ‘gall’ yn y canllawiau statudol, Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio.

 

Yn ystod yr ymgynghoriad ar y canllawiau hyn, argymhellodd nifer o’r ymatebwyr y dylai eu teitl nodi’n glir at ba gyrff cyhoeddus y maent yn cyfeirio. Roedd yr ymgyngoreion hefyd yn galw am i’r canllawiau gydnabod na fyddent yn gymwys i’r cyrff cyhoeddus hynny yn yr un ffordd, o gofio am eu swyddogaethau amrywiol a’r wybodaeth amrywiol a ddelir ganddynt.

 

Gwnaed ymdrechion i fireinio’r canllawiau yng ngoleuni’r sylwadau hyn. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, y gall hynny fod wedi arwain at ddiffyg eglurder ynghylch rhai o gyfrifoldebau’r cyrff cyhoeddus, mewn rhai achosion.

 

Byddwn, felly, yn ysgrifennu at y cyrff cyhoeddus o dan sylw i egluro sut y mae’r termau ‘rhaid’ a ‘dylai’ i gael eu deall. Pan fo ‘gall’ yn ymddangos yn y canllawiau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r cyrff penodedig, mae’r defnydd ohono yn adlewyrchu’r defnydd o ‘caiff’ yn narpariaethau cofnodion amgylchedd hanesyddol y Ddeddf i ganiatáu ar gyfer amrywio’r gofynion yn ôl natur y corff cyhoeddus a’r wybodaeth o dan sylw.

 

Yn y tymor hwy, byddwn yn adolygu’r canllawiau ac yn eu diwygio mewn ymateb i sylwadau’r Pwyllgor ac unrhyw adborth y byddwn yn ei gael gan y cyrff cyhoeddus unwaith y byddant yn dechrau defnyddio’r canllawiau yn dilyn cychwyn y darpariaethau cofnodion amgylchedd hanesyddol yn Neddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ar 31 Mai 2017.